Gweithgareddau yn Eryri - os ydych yn bwriadu cael penwythnos o Weithgareddau yn Eryri, neu wythnos hamddenol arfordirol neu hwyl i'r teulu oll - mae'r cyfan ar gael yn y rhan hyfryd hon o Gymru. Mae yma drefi hanesyddol, cyrchfannau glan y môr, rheilffyrdd cul, amgueddfeydd, adnoddau hamdden - llond gwlad o lefydd i ymweld â nhw gyda rhywbeth i bob aelod o'r teulu, ar gael trwy'r flwyddyn gron. Pam aros tan yr haf? Pan ddaw'r gwanwyn, beth am seibiant haeddiannol, neu dewch i ryfeddu at liwiau cyfnewidiol yr hydref.
Yn yr adran yma o'n gwefan cewch fwy o wybodaeth am y canlynol;
Mae rhywbeth yn Eryri i bob aelod o'r teulu - beicio i bawb o bob oedran ar lwybrau beic pwrpasol, llwybrau cerdded prydferth, meysydd picnic, hwylio ar lynnoedd, canŵio ar afonydd, yn ogystal ag archwilio'r coedwigoedd a'r rhaeadrau. Cliciwch ar y canlynol i ganfod mwy am unrhyw beth a ganlyn:-
“Mae Eryri Mynyddoedd a Môr yn baradwys i gerddwyr o bob gallu ac yn cynnig amrywiaeth enfawr o deithiau cerdded o’r ucheldir, yr arfordir, glannau’r afonydd, i lannau’r llynnoedd a’r coedwigoedd hynafol.
Yr Wyddfa ei hun, sydd yn 3,560 troedfedd (1,085m) o uchder, yw’r brif gyrchfan cerdded i’r mwyafrif o bobl. Y llwybrau mwyaf poblogaidd at y copa yw Llwybr Llanberis, sy’n rhedeg ochr yn ochr â Rheilffordd Mynydd yr Wyddfa ac, ychydig yn fwy anodd, Llwybr Pyg a Llwybr y Mwynwyr. Serch hynny, mae llawer o gadwyni eraill o fynyddoedd sydd yr un mor brydferth ac yn rhoi llawn cymaint o her i gerddwyr megis Y Carneddau, Y Glyderau, Y Rhinogydd a Chader Idris.
Gellir mwynhau teithiau cerdded mwy hamddenol trwy goedwigoedd a choetiroedd Dolgellau a Betws y Coed a’r bwlch rhwng y mynyddoedd yn Nhal y Llyn ac Aberglaslyn sydd ymhlith rhai o’r nifer o ddewisiadau eraill ar gyfer cerddwyr. Mae gan yr ardal rwydwaith o lwybrau beicio a llwybrau cerdded y Lonydd Glas lle na chaniateir cerbydau. Bydd y gyfres o bedwar Llwybr Llechi sef Bro Nantlle, Bro Ffestiniog, Bro Peris a Bro Ogwen yn rhoi cipolwg diddorol i chi ar dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal. Mae mapiau a thaflenni tywys ar gael mewn Canolfannau Croeso.
Er mewn cael ychydig o gyngor diogelwch sylfaenol i’ch helpu i fwynhau mynyddoedd Eryri mynnwch gopi o’r daflen hon sydd ar gael yn ein Canolfannau Croeso. Mae datblygiad newydd llwybyr arfordir Llŷn yn gyfle unigryw i brofi gwlad ac ardal agored Penrhyn Llŷn o un oi nodweddion mwyaf hynod a phwysig – ei harfordir. Yn ymestyn o Gaernarfon i Borthmadog, mae’r llwybyr yn 95 milltir mewn hyd ac yn eich tywys heibio cilfachau, clogwyni geirwon, porthladdoedd bychain o fywyd gwyllt godidog. Dyma ardal unigryw sy’n llawn haeddu ei dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Taflen ar gael o’r Canolfannau Croeso.” (ffynhonnell:http://www.gwynedd.gov.uk)
Am fwy o deithiau cerdded yng Ngwynedd, cliciwch yma.
“Mae seiclo yn ffordd iach a difyr o fwynhau cefn gwlad, ac mae amrywiaeth o lwybrau a theithiau ar gael yng Ngwynedd, gyda llawer wedi'u marcio a chyda thaflenni ar eu cyfer.
Gallwch logi beic, neu, os oes beic eich hun gennych, gallwch ddilyn y llwybrau yng Nghoed y Brenin a choedydd Gwydir, neu Lôn Las Cymru, sef llwybr beicio cenedlaethol Cymru. Mae nifer o lwybrau lleol yn yr ardal hefyd - Lôn Las Menai, Lôn Eifion a Lôn Ardudwy.” (ffynhonnell:http://www.gwynedd.gov.uk)
Am fwy o wybodaeth am lwybrau beicio hamddenol, cliciwch yma.
"Mae seiclo yn ffordd iach a difyr o fwynhau cefn gwlad, ac mae amrywiaeth o lwybrau a theithiau, gyda llawer wedi'u marcio a chyda thaflenni yng Ngwynedd. Gallwch logi beic, neu os oes beic eich hun gennych, gallwch ddilyn y llwybrau yng Nghoed y Brenin a choedydd Gwydir, neu Lôn Las Cymru, llwybr beicio cenedlaethol Cymru. Mae nifer o lwybrau lleol yn yr ardal hefyd - Lôn Las Menai a Lôn Eifion." (ffynhonnell:http://www.gwynedd.gov.uk)
"Mae “Y llynnoedd gwyrddion llonydd”, yr afonydd bywiog a’r rhaeadrau gwyllt i gyd yn rhan annatod o Eryri. Wedi denu ymwelwyr ers canrifoedd gyda’u swyn a’u harddwch maent heddiw yn cynnig cyfleoedd cyffrous i brofi llu o weithgareddau dwr.
Gyda nifer fawr o lynnoedd ac afonydd mae Eryri yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i bobl fwynhau chwaraeon dwr o bob math. Mae Llyn Tegid, Bala, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, yn gyrchfan heb ei hail i bobl sydd â’u bryd ar hwylio, canwio a hwylfyrddio, ac mae Llyn Geirionydd yng nghoedwig Gwydir yn ffefryn gan gychwyr. Ffilmiwyd rhannau o’r ffilm Tombraider II, gydag Angelina Jolie ar lannau hardd Llyn Gwynant sy’n gyrchfan boblogaidd i lawer sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon dwr.
Ym mhob rhan o Eryri mae cyfle i fynd mewn canw, caiac neu ar rafft, yn gystadleuol neu i hamddena. Os yn ddechreuwr cewch gyfle i ganwio lle mae’r dwr yn weddol dawel neu os yn brofiadol gallwch fwrw iddi o ddifrif i herio’r dyfroedd gwylltaf. Mae’r dewis yn ddiddiwedd ond mae Afon Conwy, Afon Glaslyn ac Afon Llugwy yn addas iawn i’r ceufadwyr mwyaf profiadol. Mae Canolfan Genedlaethol Dwˆr Gwyn Tryweryn ger y Bala, yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i ddysgwyr a’r mwyaf profiadol gael herio’r dwr gwyllt mewn caiac neu ar rafft. Cynhelir cystadlaethau bydeang yma." (ffynhonnell:http://www.gwynedd.gov.uk)
"Mae’r mynyddoedd geirwon sy’n ymestyn i lawr i’r cilfannau tawel, y baeau hardd a’u traethau, yr aberoedd, y llynnoedd naturiol, yr afonydd a’r nentydd i gyd yn cyfrannu at dirlun dramatig sy’n cynnig rhai o’r mannau mwyaf cynhyrfus a phleserus ar gyfer pysgota ym Mhrydain. Ar gyfer pysgota gêm a physgota cwrs mae’n rhaid i chi gael:
• Trwydded ddilys gan y gymdeithas briodol neu’r perchennog (Ar gael yn y Pysgodfeydd/Siopau Pysgota/ Canolfannau Croeso)
• Trwydded genedlaethol pysgota gwialen (ar gael ym mhob Swyddfa Post ac ar safle we Asiantaeth yr Amgylchedd)
Mae Eryri yn nefoedd i bysgotwyr gêm gyda dros 100 o lynnoedd, pob un a’i gymeriad a’i leoliad unigryw ei hun, yn amrywio o rewlyn Llyn Cwellyn yn y gogledd i Dal y Llyn gyda’i brydferthwch a’i dawelwch hudolus yn y de. Llyn Tegid yn y Bala yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru ac mae’n ymestyn yn osgeiddig rhwng copaon uchel Aran Benllyn, yr Arenig Fawr a mynyddoedd mawreddog y Berwyn. Mae gan Lyn Crafnant, a Llyn y Dywarchen a Cregennan stoc dda o frithyll rhagorol tra bod brithyll gwyllt gosgeiddig brodorol yn llechu mewn llynnoedd megis Nantlle.
Cynhelir llawer o gystadlaethau pysgota rhyngwladol ar lyn Trawsfynydd, sef lleoliad Camlod yn y ffilm ‘First Knight’, ac mae’r llyn hwn yn cael ei ystyried yn un o’r cronfeydd dwr pysgota gorau yng Nghymru.
Ceir pysgota afonydd rhagorol mewn nifer o afonydd trwy’r ardal gan gynnwys afon Llyfni, Dwyfor, Glaslyn, Mawddach a Chonwy. Mae’r afonydd hyn yn enwog am eu brithyll gwyllt, a gellir hefyd ddal digonedd o eogiaid a sewin yma yn ystod diwedd y tymor.
Mae traddodiad pysgota yr ardal yn parhau gyda phatrymau plu lleol fel y Diawl Bach, Haul a Gwynt a Choch y Bonddu yn ffefrynnau hyd heddiw. Ond mae Pysgota Cwrs, sydd ar gael yn bennaf yn y llynnoedd preifat, yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ac yn cael ei ystyried fel dewis arall i’r pysgota plu mwy traddodiadol. Mae pysgota môr yn boblogaidd iawn ar hyd y rhan fwyaf o’r 300 cilometr o arfordir eithriadol o hardd, yn arbennig mewn lleoedd fel Caernarfon, Conwy, Nefyn, Llanfairfechan, Penmaenmawr a Trefor. Gellir trefnu i logi cwch i fynd i bysgota mewn llawer o’r pentrefi harbwr. Mae’r amryw o siopau sy’n gwerthu offer pysgota yn barod iawn i roi cyngor." (ffynhonnell:http://www.gwynedd.gov.uk)
"Does dim profiad tebyg i weld ardal Eryri Mynyddoedd a Môr ar gefn ceffyl. Mae’n gyfle unigryw i fwynhau’r golygfeydd gwych ac amrywiol. Rhwng y bryniau a’r traethau mae rhywbeth yma i bawb.
Crwydrwch y rhan unigryw a thrawiadol hon o’r wlad ar gefn ceffyl, gan gyfarfod â’r bobl a mwynhau’r awyr iach. Mae marchogaeth yn un o’r ffyrdd mwyaf pleserus o fwynhau golygfeydd godidog Eryri Mynyddoedd a Môr gyda chyfleoedd rhagorol i farchogaeth, hacio a merlota ym mhob rhan o’r ardal. Mae llwybrau tawel, hamddenol ar gyfer y rhai sydd eisiau ymlacio a mwynhau’r golygfeydd, a llwybrau cyffrous ar gyfer y rhai sydd eisiau mynd ar garlam. Anodd yw peidio ag ymlacio’n llwyr gyda’r fath banorama o afonydd, dyffrynnoedd, mynyddoedd, llynnoedd a choetiroedd. Yn Abergwynant yn Nyffryn Mawddach mae 2000 erw o dir lle gallwch farchogaeth mewn ardal o brydferthwch ddigon o ryfeddod, ac yn Nolbadarn gallwch ferlota wrth droed yr Wyddfa. Yn Waunfawr ger Caernarfon mae milltiroedd o lwybrau ceffyl gyda golygfeydd gwych o’r mynyddoedd a’r môr. Cewch hefyd olygfeydd hyfryd o’r môr yng Nghanolfan Marchogaeth Cilan yn Abersoch ac yn Fferm Ty Coch, Pennmachno sydd mewn dyffryn unig a thawel." (ffynhonnell:http://www.gwynedd.gov.uk)
"Mae aberoedd ac arfordir, mynyddoedd a bryniau, coetiroedd hynafol a dyffrynnoedd Eryri Mynyddoedd a Môr i gyd wedi cyfrannu at yr amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd sydd wedi creu enw da i’r ardal ac wedi denu cymaint o wylwyr adar ar hyd y blynyddoedd.
Mae Gwarchodfeydd yr RSPB yn Nyffryn Mawddach yn cynnig golygfeydd trawiadol a theithiau cerdded hyfryd trwy goetiroedd eang. Yng Ngwarchodfa aber Conwy gallwch weld amryw o adar hirgoes o fewn golwg i’r castell godidog. Darparir cuddfannau sydd wedi eu lleoli’n dda er mwyn sicrhau gwledd ragorol i’r llygaid. Fel rhan o Broject Gweilch Y Glaslyn, gweithredir cynllun gwarchod bedair-awr-ar hugain yn ystod y tymor nythu. Mae’r cynllun gwylio i’r cyhoedd ar agor rhwng mis Ebrill a mis Awst, ac yma gallwch ddefnyddio telesgopau a gweld lluniau o’r nyth drwy’r camera byw. Bydd staff a gwirfoddolwyr yn bresennol i gynnig cymorth. Mae’r wylfan gyhoeddus ym Mhont Croesor (cyfeirnod grid SH593413). Am ragor o wybodaeth cysylltwch â RSPB Swyddfa Gogledd Cymru ar 01248 363800." (ffynhonnell:http://www.gwynedd.gov.uk)
Diolch i chi am ymweld â’n safle gwe ni ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu fel gwesteion.
Rydym yn gobeithio y cawsoch atebion i’ch cwestiynau, ond os nad mae croeso i chi gysylltu â ni.