Ty Llwyn

 

Hen ffermdy yw Tŷ Llwyn a saif mewn llecyn hynod gyfleus uwchlaw'r Fenai gyda golygfeydd o Ynys Môn, ger pentref y Felinheli (Port Dinorwig) o ddeutu 4 milltir o Ddinas Prifysgol Bangor. 

 

Ffermdy eang Fictorianaidd gydag ystafelloedd wedi'u dodrefnu'n chwaethus i gyd-fynd â'r celfi a'r llefydd tân gwreiddiol.

 

Saif Tŷ Llwyn mewn llecyn arbennig, yn agos at yr holl atyniadau a chyrchfannau. Ddeng munud i ffwrdd yn y car y mae ynys Môn a'i thraethau prydferth a Pharc Cenedlaethol Eryri gyda'i olygfeydd godidog chwarter awr i ffwrdd yn y car.  Ceir sawl bwyty arbennig o dda a rhesymol yn y Felinheli, perffaith ar gyfer ymlacio ar lannau'r y Fenai. Rhyw 4 milltir i ffwrdd y mae tref gaerog Frenhinol Caernarfon, gyda'i chastell Edwardaidd ysblennydd, ei hen dref gaerog a'i anheddiad Rufeinig.

 

Bydd plant wrth eu bodd yng Nghanolfan Weithgareddau Greenwood, y gellir ei chyrraedd ar droed. Mae prif atyniadau Gogledd Cymru yn hawdd i'w cyrraedd o Tŷ Llwyn.

 

Am fwy o wybodaeth am y Ffermdy cliciwch yma.

 

I fynd ar Daith Rithiol, cliciwch yma.


Virtual Tour

Virtual Tour

Diolch i chi am ymweld â’n safle gwe ni ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu fel gwesteion.

 

Rydym yn gobeithio y cawsoch atebion i’ch cwestiynau, ond os nad mae croeso i chi gysylltu â ni.